‘Derbyniwch helm iachawdwriaeth a chleddyf yr Ysbryd, sef gair Duw. Ymrowch i weddi ac ymbil, gan weddïo bob amser yn yr Ysbryd.’ Effesiaid 6:17,18
Dywedodd ein Harglwydd ‘… fod yn rhaid gweddïo yn wastad, ac heb ddiffygio.’
Luc 18:1
Yr ydym am eich annog i ymroi ‘i weddi ac ymbil, gan weddïo bob amser yn yr Ysbryd’. Wrth nesáu at gyfnod prysur a bendithiol y Nadolig, boed inni gofio addewidion a chysuron Duw i’w blant yn ei air.
Gwersylloedd
Mae’r llythyr hwn yn agor gydag adroddiad byr o waith ein gwersylloedd yn ystod yr haf a aeth heibio. Bu’n gyfnod hynod o fendithiol gyda thua 500 o bobl ifanc yn mynychu gwersylloedd yn ystod misoedd Gorffennaf ac Awst.
Dyma sylwadau ac argraffiadau gan rai o’r gwersyllwyr:
Y peth gorau am y gwersyll oedd … popeth! – pregethau, gemau, crefftau, gwibdeithiau a bwyd. Roedd y lleoliad yn drawiadol ac yn gwneud imi ryfeddu at brydferthwch creadigaeth Duw. Y pwll a’r llithren ddŵr. Tripiau, gweithgareddau, ffrindiau a swyddogion gwych, a gwasanaethau ac astudiaethau Beiblaidd gwych.
Y peth pwysicaf i mi ei ddysgu yn ystod y gwersyll oedd ... bod yn rhaid i Iesu fod yn ganolbwynt i’m bywyd. Fydd Duw byth yn gadael y rhai y mae wedi eu caru a’u hachub. Y Beibl yw gair Duw. Mae’n rhaid gosod a chadw Crist yng nghanol popeth. Mae Duw gyda mi bob amser – hyd yn oed mewn cyfnodau anodd. Dysgais beth yw ystyr dod yn Gristion. Os yw’r Mab gennym mae popeth gennym.
Dyma rai o argraffiadau arweinwyr y gwersylloedd:
Bu’r cogyddion yn fendith anhygoel – roedd eu cyfraniad tuag at y gwersyll yn sylweddol. Roedd aeddfedrwydd y gwersyllwyr wrth iddynt weddïo dros y gwersyll yn anhygoel – yn cynnwys rhai 10-12 oed. Gwelsom ffrwythau’r Ysbryd yn amlwg yn y gwersyll. Gwych oedd gweld plant yn tyfu’n ysbrydol o flwyddyn i flwyddyn. Derbyniodd un arweinydd ebost gan fam i wersyllwr yn dweud fod ei mab wedi newid yn llwyr ar ôl bod yn y gwersyll am wythnos. Rhywun sy’n byw yn dda yw Cristion yn ôl nifer o blant – nid ydynt yn deall gras. Mae angen sicrwydd ar nifer o wersyllwyr. Bu chwech yn darllen The Cross-Centred Life , llyfr a gymeradwywyd yn ystod y gwersyll. Daeth tair merch i gredu yn ystod y flwyddyn a aeth heibio – cafwyd cyfle i glywed eu tystiolaethau personol yn ystod yr wythnos, tystiolaeth i ras a gallu Duw. Diolchwn i Dduw am
wasanaeth Tony Seager, sydd newydd ymddeol ar ôl gwasanaethu fel caplan yng ngwersylloedd MEC am 30 mlynedd yn olynol.
Gwasg Bryntirion
Gwasg Bryntirion yw adain gyhoeddi MEC. Rydym yn awyddus i ddefnyddio ein holl adnoddau gyda gofal. Gweddïwn am ddoethineb wrth:
- gefnogi llyfrau newydd a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yn enwedig Darganfod Cristnogaeth: Llawlyfr Astudio ynghyd â’r wefan www.darganfodcristnogaeth.org
- wynebu penderfyniadau ynglŷn â chyfeiriad y Wasg i’r dyfodol, a pha fath o lyfrau i’w cyhoeddi.
- feithrin a datblygu doniau awduron newydd.
- ganfod gwirfoddolwyr newydd i gynorthwyo gyda gwaith golygu a phrawfddarllen, ac ysgafnhau baich Brenda Lewis, Edmund Owen a John Aaron.
- wella’r dull o gynhyrchu a marchnata.
- cofiwn hefyd am Gethin Rhys wrth iddo ofalu am gyhoeddiadau Cymraeg a Saesneg y Wasg a chefnogi Bwrdd Cynhyrchu Y Cylchgrawn Efengylaidd.
Rydym yn ddiolchgar am eich gweddïau. Cofiwch am:
1. Y gwaith trefnu a pharatoi ar gyfer gwersylloedd 2010
Mae pwyllgorau’r Gwersylloedd wrthi’n cynllunio ar gyfer haf 2010. Gweddïwch y byddant yn cael ddoethineb i ddirnad arweiniad Duw wrth chwilio am weithwyr – mae angen swyddogion doeth a phrofiadol, cogyddion duwiol ac effeithiol, a chaplaniaid ac arweinwyr addas.
Cofiwch hefyd am yr aduniad blynyddol a fydd yn digwydd yn Aberystwyth, Tachwedd 14.
2. Cynhadledd y Gweinidogion Cymraeg
(2–3 Tachwedd, Bryn-y-groes, y Bala)
Gweddïwch y bydd y gynhadledd yn gyfnod o fendith ac o adnewyddiad i’r gweinidogion. Y prif siaradwyr eleni yw Dafydd Job, Lewis Roderick, Geraint Morse a Derrick Adams.
3. Ymgyrch Cymru
Arberth, 27 Hydref – 1 Tachwedd
Bydd papur newydd yn cael ei gynhyrchu’n lleol er mwyn efengylu, gyda 2,000 o gopïau i’w dosbarthu yn ystod yr wythnos. Cynhelir cyfarfodydd pregethu o dan arweiniad Dave Norbury, Phil Swann ac Andy Christofides. Bydd bwrdd llyfrau ar stryd fawr y dref ac yn y ffair, a chyfarfodydd penodol i wragedd a phlant. Bydd pawb a ddaeth i gysylltiad â’r tîm yn ystod yr ymgyrch yn derbyn gwahoddiad i gyfarfod arbennig ar ddiwedd yr wythnos.
Mynachlog Nedd
Bydd taflenni efengylu yn cael eu dosbarthu rhwng 9.00yb - 4.00yp, 25 - 27 Tachwedd, gyda’r ymgyrch i ddilyn rhwng 4 - 7 Rhagfyr. Y pregethwr fydd Chris Rees.
Rydym yn dal i chwilio am gymorth yn ystod yr ymgyrchoedd hyn. Cysylltwch â Malcolm a Shirley Towers am fwy o wybodaeth. Y rhif ffôn yw 01792 583105.
4. Cynhadledd i Weinidogion Newydd – ‘Er Ei Ogoniant’
Menter newydd gan MEC yw’r gynhadledd hon, wedi ei threfnu ar gyfer gweinidogion yn ystod 5 mlynedd gyntaf eu gweinidogaeth. Cofiwch am y dynion fydd yn dod ynghyd rhwng 25–27 Tachwedd, ac hefyd am y prif siaradwr, Art Azurdia. Mae’r ymateb i’r gynhadledd hyd yma yn galonogol.
5. Bwrdd Rheoli MEC
Bydd y Bwrdd yn cyfarfod ar 9 Tachwedd ac mae sawl her yn wynebu’r aelodau. Cofiwch yn benodol am Gwynn Williams, y cadeirydd, sy’n gwella yn dilyn cyfnod o salwch dros yr haf.
6. Darganfod Cristnogaeth
Gwyddom am o leiaf 7 o gyrsiau sy’n cael eu cynnal yn ystod yr hydref, sy’n galonogol iawn. Gweddïwch dros y rhai sy’n arwain neu’n mynychu’r cwrs wrth iddynt astudio Efengyl Marc gyda’i gilydd.
7. Eglwysi ar hyd a lled Cymru
Cofiwch am Gymru dros gyfnod y Nadolig. Mae’n adeg pan fydd eglwysi’n estyn gwahoddiad i’w cymunedau lleol i glywed neges yr efengyl.
8. Siopau Llyfrau
Dyma gyfnod prysuraf y flwyddyn i’n siopau llyfrau, a chyfnod allweddol o safbwynt ariannol. Gweddïwch y bydd nifer sylweddol o lyfrau’n cael eu gwerthu ac y byddant o fendith i’r di-gred ac i Gristnogion.
Cofiwch yn benodol am:
- Siop Caerdydd, sydd yn agos at siop newydd John Lewis a Llyfrgell Ganolog Caerdydd. Mae ardal newydd i eistedd ac ymlacio ar y llawr cyntaf. Galwch heibio – bydd Stuart, Alan a’r gwirfoddolwyr yn falch iawn o’ch gweld. Mae gwefan newydd gan y siop hefyd.
- Dylai’r gwaith o adnewyddu siop Y Bala gael ei gwblhau erbyn mis Ionawr. Cofiwch am Eglwys Efengylaidd y Bala, Ann Davies a’r gefnogaeth sydd ei hangen gan MEC i gwblhau’r gwaith.
- Mae Siop Bangor yn parhau gyda’r cynnig llyfrau Nadolig llwyddiannus – trwy gynnig pecynnau enghreifftiol o lyfrau i eglwysi lleol.
Boed i’r Arglwydd eich bendithio yn ystod y misoedd nesaf.
Pob bendith,
Dave Norbury
Ysgrifennydd Cyffredinol
|