 |
If you would like to receive future copies of this email in English, please click here.
Mis yma:
Beth am argraffu copi?
Gallwch lawrlwytho copi PDF o’r llythyr gweddi yma yn Gymraeg neu Saesneg. Beth am argraffu copi ar gyfer eich cyrddau gweddi, neu i gadw yn eich Beibl?
|
 |
 |
Ef ei hun a ddygodd ein pechodau yn ei gorff ar y croesbren, er mwyn i ni ddarfod â’n pechodau a byw i gyfi awnder. Trwy ei archoll ef y cawsoch iachâd. Oherwydd yr oeddech fel defaid ar ddisberod, ond yn awr troesoch at Fugail a Gwarchodwr eich eneidiau. 1 Pedr 2:24-25
Ymunwch a ni ...
Mae gennym Waredwr rhyfeddol. Yn ein llythyr gweddi’r mis yma rydym yn canolbwyntio ar nifer o unigolion ac o fudiadau sy’n ymroi i gefnogi Cristnogion ac eglwysi yng Nghymru gan ddymuno y bydd eu gwybodaeth o Grist yn cynyddu ynghyd a’u hawydd i rannu’r newyddion da am ei farwolaeth ar y groes drosom gydag eraill.
Felly, os gwelwch yn dda ymunwch a ni i weddïo dros ....
Ymgyrch Cymru
- Cawsom ein calonogi gan Ymgyrch Llambed (diwedd Ionawr) pryd y dosbarthwyd yn agos at 4,000 copi o lyfryn efengylu a gynhyrchwyd yn arbennig i’r pwrpas i ffermydd, tai a phentrefi o fewn cylch o saith milltir o boptu’r dref. Bu tîm o un-ar-ddeg o bobl yn gweithio gyda’r eglwys a rhannwyd yr efengyl drwy sgwrsio, pregethu a thrafod gyda’r trigolion lleol, yn y Gymraeg a’r Saesneg, gyda myfyrwyr o’r Deyrnas Gyfunol ac o dramor a chyda disgyblion ysgolion cynradd ac ysgol uwchradd Llambed. Heuwyd yr had. Hyd yma nid ydym yn gwybod a gafwyd tröedigaethau.
- Gwaith cyson Eglwys Efengylaidd Llanbed dan arweiniad Gareth Jones. Mae’r eglwys yn defnyddio’r Hedyn Mwstard o ddydd i ddydd i helpu’r eglwys i gyrraedd trigolion y dref prifysgol fechan hon a’r ardal.
- Cyfarfodydd pregethu gyda Chris Rees yn Mount Elim, Pontardawe 7-10 Ebrill.
- ‘Gŵyl Gristnogol Pen-y-bont ar Ogwr’ gyd Roger Carswell 27 Ebrill - 1 Mai.
- Ymgyrch Arberth yn ystod hanner tymor mis Hydref. Mae angen y tîm a’r llenyddiaeth gywir arnom a gweddïwch hefyd y bydd yr Ysbryd Glan yn ein harwain ac yn ein nerthu.
Gweinidogaethau eraill MEC
- Gwaith y gwersylloedd Gweddïwch os gwelwch yn dda am wersylloedd llawn, Duw ganolog wrth i’r tafl enni gael eu dosbarthu ym mis Chwefror.
- Cynadleddau Un-dydd y Gweinidogion Diolch i Dduw am y cyfarfodydd buddiol a gafwyd yn y Gogledd a’r De - er gwaethaf yr anawsterau ar y ffyrdd.
Gwaith Cymraeg MEC
Mae Steff Job yn ysgrifennu: Mae ein gwaith Cymraeg yn parhau i ddatblygu ac i dyfu. Mae dros 600,000 o bobl yng Nghymru sy’n siarad Cymraeg yn rhugl. Ein nod yw cefnogi ac annog Cristnogion ac Eglwysi drwy gynadleddau, cyrsiau, brawdoliaethau, cymdeithas, gwersylloedd a llenyddiaeth a hefyd drwy ddarparu adnoddau, hyfforddiant a chyfleoedd efengylu . Mae nifer o bethau calonogol ar ochr Gymraeg y gwaith:
- Darganfod Cristnogaeth (Cwrs Efengylu) – Mae Gethin Rhys (swyddog y Wasg) wedi bod yn paratoi fersiwn Cymraeg gyda chymorth gwirfoddolwyr. Ein gobaith yw cynnal lansiad yn ystod y misoedd nesaf drwy gynnal nifer o gyfarfodydd ar draws Cymru. Byddwn hefyd yn darparu hyfforddiant ynglŷn â sut i redeg y cwrs drwy unigolion yn cynnwys Jonathan Thomas (Rhydaman).
- Efengylu –Byddwn yn parhau i gynnal y gwaith efengylu yn yr Eisteddfod ac yn y sioeau amaethyddol eleni (gyda threlar MEC a Roger Thomas). Rydym hefyd yn cynhyrchu nifer o adnoddau efengylu yn y Gymraeg ac yn ddwyieithog, yn cynnwys tractiau, cryno ddisgiau a phapur newydd Nadolig heb anghofio’r hyn a gynhyrchir yn y Gymraeg ar gyfer Ymgyrch Cymru.
- Y Cwrs Diwinyddol Cymraeg – Mae’r nifer sydd wedi ymuno â’r cwrs newydd wedi bod yn galonogol. Mae’r cwrs yn cynnig hyfforddiant diwinyddol a chefnogaeth ymarferol i Gristnogion. Mae’n ddelfrydol ar gyfer Cristnogion sydd mewn gwaith seciwlar llawn amser ond sydd yn gweinidogaethu mewn eglwysi. Yn ogystal â’r modiwlau craidd mewn diwinyddiaeth feiblaidd a hanes yr eglwys, cynigir modiwlau mewn pregethu, efengylu a gwaith plant. Ymhlith y darlithwyr mae Derrick Adams, Gwyn Davies, Gwynn Williams a John Treharne.
- Cynadleddau a Gwersylloedd – Cafwyd cynnydd yn nifer y bobl a fynychodd rhai o’r amrywiol gynadleddau y llynedd, ac rydym yn ddiolchgar i Dduw am hyn. Rydym yn parhau i redeg dau wersyll Haf Cymraeg ac encil Basg bob blwyddyn ac mae tystiolaeth rhai o’r bobl ifanc sy’n mynychu’n destun rhyfeddod cyson i ni. Gweddïwch yn benodol dros Emyr James, fydd yn arwain gwersyll am y tro cyntaf eleni.
- Llwybrau – Dyma ein cylchgrawn ieuenctid. Mae’n cael ei gynhyrchu gan dîm o Gristnogion ifanc yn eu hugeiniau. Mae’n wych gweld y cylchgrawn yn cael ei ddefnyddio gan eglwysi ar draws Cymru. Yn bersonol yr uchafbwynt eleni yw clywed am bobl ifanc sy’n defnyddio’r nodiadau astudio’r Beibl yn ystod eu hamser tawel gyda Duw – mae’n fraint cael annog ac arfogi pobl ifanc i ddarllen gair Duw. Mae’r cylchgrawn yn cynnig cyfle arall hefyd – wrth gynhyrchu’r ddau fersiwn cyntaf bu i dros ddeg person ysgrifennu ar ei gyfer am y tro cyntaf.
Er bod nifer o bethau calonogol yn y gwaith rydym yn ymwybodol iawn ein bod yn byw mewn dyddiau anodd i Gristnogaeth yng Nghymru. Mae gwaith yr Efengyl yn anodd ac rydym yn gwbl ddibynnol ar Dduw. Am hynny hoffwn eich annog i weddïo dros:
- Datblygiadau – Os gwelwch yn dda gweddïwch am ddatblygiad a chalondid i’r gwaith Cymraeg. Rydym yn ymwybodol iawn y bydd ein gwaith yn ofer os na fydd Duw yn ei fendithio.
- Staff a gwirfoddolwyr – Ar hyn o bryd tri aelod o staff, yn gweithio’n rhan amser, sydd gan y gwaith Cymraeg sef Gethin Rhys (y Wasg), Lowri Iorwerth (Gweinyddiaeth) a minnau (Datblygu). Gweddïwch os gwelwch yn dda ar i Dduw roi i ni nerth, doethineb a baich dros Ei ogoniant. Gweddïwch hefyd dros y nifer helaeth o wirfoddolwyr sy’n cynorthwyo ac yn cefnogi’r gwaith Cymraeg gan fod eu cyfraniad mor angenrheidiol.
- Gweinidogion ac Eglwysi – Gweddïwch dros y gweinidogion sy’n pregethu ac yn gwasanaethu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r gwaith yn anodd ac yn aml yn ddigalon - mae angen nerth a’n gweddïau ni arnynt. Yn aml cymharol ychydig o aelodau sydd gan yr eglwysi Cymraeg. Os gwelwch yn dda gweddïwch y bydd yr eglwysi’n tyfu wrth i bobl gael tröedigaethau er gogoniant i Dduw.
Sefyllfa diweddaraf y Siopau
Nid gwasanaethu Cristnogion yn unig mae’r siopau llyfrau ond maent hefyd yn lampau ar gyfer yr efengyl yng Nghymru. Pob dydd maent yn dod i gysylltiad â phobl leol ac y rhannu’r efengyl. Os gwelwch yn dda gweddïwch dros reolwyr a staff ein siopau:
- Castell Nedd (Gaynor Lewis) Rydym yn edrych yn fanwl ar ddyfodol y siop.
- Caerdydd (Stuart Arnold a Hywel George) Mae grŵp gweithredu dan arweiniad Peter Milsom a Howard Bilton yn helpu datblygu’r siop drwy ymdrechu i gydweithio’n agosach gyda Christnogion ac eglwysi lleol - tybed beth all ddigwydd.
- Bala (Ann Davies) Rydym yn paratoi ar gyfer symud i siop llawer gwell drwy garedigrwydd un Cristion.
- Wrecsam (Dave ac Angela Gee) Mae Julie Mcintosh wedi derbyn diswyddiad gwirfoddol. Gweddïwch drosti os gwelwch yn dda wrth iddi chwilio am swydd newydd.
- Llandrindod Yn dilyn proses hir a difrifol o ymgynghori gydag eglwysi lleol penderfynwyd peidio â pharhau gyda’r siop. Fodd bynnag, bydd gweinidogaeth llyfrau’n parhau o fewn canolfan arddio lleol sy’n berchen i Gristion. Gweddiwch dros Gill Davies ac Audrey Ward oedd arfer gweithio yn y siop.
Partneriaeth yn yr Efengyl
AECW
Dyma sydd gan y Parch Graham John i’w ddweud: Mae AECW yn parhau dan gadeiryddiaeth Peter Milsom. Gweddïwch dros eglwysi drwy Gymru wrth iddynt ymgodymu gydag amodau’r Comisiwn Elusennol yn dilyn y cyfarfod a gafwyd rhyngddynt ag arbenigwr FIEC Brian Matthews ym mis Ionawr. Cofiwch hefyd am y gwaith cyson o weithio gyda’n gilydd i blannu ac i gryfhau eglwysi. Cofiwch hefyd am gynadleddau amrywiol AECW drwy Gymru megis Cynhadledd hanner diwrnod y Merched yn Abertawe 25 Ebrill a’r brif gynhadledd flynyddol yn y Drenewydd ar 16 o Fai, sy’n dwyn y teitl, “Cymhwyso’r Beibl - yr eglwys a thraddodiad mewn byd sy’n newid” - Ian Parry.
Cymru Gyfan
Rhwydwaith plannu a chryfhau eglwysi newydd yw Cymru Gyfan. Maent yn trefnu diwrnod o weddi Dydd Sul 1 Mawrth 2009 - beth am ymuno a nhw? Paratowyd pecyn dwyieithog o adnoddau sydd i’w gael drwy’r safle we’r (www.waleswide.org). Maent hefyd yn trefnu Cynhadledd Plannu a Chryfhau Eglwysi yn y Drenewydd ar Fai 12fed. Gweddïwch dros y gynhadledd. Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru cysylltwch â safle Cymru Gyfan ar y we.
Affinity
Sefydliad yw hwn yn cynnwys tua 1,300 o eglwysi Beibl ganolog drwy Brydain ac Iwerddon. Mae’n cynnwys canran uchel iawn o eglwysi efengylaidd cadarn Cymru drwy’r Partneriaid Corfforedig (e.e. MEC, AECW, FIEC). Cynhyrchir deunydd efengylu ardderchog drwy’r timau amrywiol. Os gwelwch yn dda gweddïwch dros y Bwletin a gynhyrchir gan y Tîm Materion Cymdeithasol sy’n cynhyrchu deunydd gwleidyddol, moesegol a chymdeithasol hanfodol ar gyfer eglwysi mewn ffurf unigryw a hawdd ei gael a hynny er mwyn iddynt weddïo a gweithredu fel y gwelant yn dda. Gellir ei lawr lwytho ar ffurf llyfryn yn rhad ac am ddim yn gyson drwy safle we Affinity. Mae nifer o eglwysi’n argraffu copïau ar gyfer eu haelodau. Parhewch i weddïo am Ddiwygiad os gwelwch yn dda.
WEST (Y Coleg Diwinyddol)
Dyma sydd gan Yr Athro Jonathan Stephen i’w ddweud: Yn dilyn arolwg trylwyr y llynedd rydym yn ddiolchgar iawn i Dduw ein bod o’r diwedd wedi cael ein derbyn yn swyddogol fel sefydliad Addysg Uwch gan Gyngor Achredu Prydain. Bellach rydym yn barod i gael trwydded oddi wrth Awdurdod UK Border fydd yn ein galluogi i noddi myfyrywyr visa. Mae’n rhaid goresgyn sawl rhwystr y dyddiau hyn! Gweddiwch os gwelwch yn dda am i ni barhau i dderbyn ceisiadau gan fyfyrwyr ar gyfer y fl wyddyn nesaf. Gweddiwch hefyd dros ‘Dymor yr Haf’. Mae hwn y fenter sylweddol ar gyfer WEST. Rydym yn credu y bydd y digwyddiadau hyn yn hynod o gynorthwyol ac ymarferol ac maent yn agored i bob Cristion yng Nghymru. Edrychwch ar wefan WEST i wybod mwy.
Parhewch i weddïo am Ddiwygiad os gwelwch yn dda
Mae Neville Rees yn ysgrifennu: Dydd Llun 12 Ionawr roedd tua phymtheg ohonom yng Nghyfarfod Gweddi’r Gweinidogion am Ddiwygiad. Buom yn rhannu ynglŷn â’r pethau oedd wedi digwydd dros y Nadolig. Wedyn darllenom Eseia 44: 1-8 gan gyfeirio at y Diwygiad ar Ynys Lewis yn 1949 pan fu i ddwy chwaer ddal ar yr adran hon. Parodd hyn i ni ystyried ein sychder ysbrydol ni ac i gwestiynu ein syched am Dduw. Mae Duw yn addo delio gyda’r ddau. Llifodd gweddi’n rhydd ac aeth dwy awr heibio’n gyfl ym a buddiol iawn. O na fyddai dynion yn canmol ac yn ceisio Duw llawer mwy! Mae cymaint mwy i’w wybod a’i weld. Byddwn yn cyfarfod eto ym Mryntirion dydd Llun 30ain o Fawrth. Beth am ymuno â ni?
Boed i Dduw eich bendithio dros y misoedd nesaf.
Yng Nghrist ei hun,
|
 |