Ydych chi’n cael anhawster i ddarllen y cylchlythyr yma? Cliciwch yma i’w weld yn eich porwr.
Rydych yn derbyn y cylchlythyr yma o ganlyniad i danysgrifiad o’n safle wê. Cliciwch yma i orffen eich tanysgrifiad.
Ymunwch â ni... mewn gweddi

If you would like to receive future copies of this email in English, please click here.

Mis yma:

Annwyl gyfeillion
Ymgyrch Cymru—Caernarfon
Cynadleddau Undydd y Gweinidogion
Cwrs Hyfforddi Diwinyddol MEC (Saesneg)
Efengylu ar draws Cymru
Siopau Llyfrau
Gŵyl Gristnogol Llanw
Gwefan newydd
Bwrdd Rheoli newydd
Gwersylloedd a chynadleddau Aberystwyth
Ymunwch â ni i weddïo…
Gweddiwch dros weindogion a phregethwyr Gair Duw
Ymgyrch Cymru—Townhill, Abertawe, 19-24 Mai.
Siaradwyr cynadleddau Aberystwyth,
Eisteddfod yr Urdd, Conwy
Cynhadledd y Gweinidogion (Saesneg)
Adnewyddu Siop Llyfrau
‘Gwas da i Grist’
Cylchgronau
Personél


Beth am argraffu copi?

Gallwch lawrlwytho copi PDF o’r llythyr gweddi yma yn Gymraeg neu Saesneg. Beth am argraffu copi ar gyfer eich cyrddau gweddi, neu i gadw yn eich Beibl?

Mae llawer y gallwn ddiolch i Dduw amdano. Ymunwch â ni i ddiolch i’r Arglwydd am…

Ymgyrch Cymru—Caernarfon

Llwyddwyd i gyflawni llawer yn ystod yr ymgyrch. Rhannwyd dros 2,500 o daflenni yn egluro’r efengyl; curwyd ar gannoedd o ddrysau a phregethwyd yr efengyl mewn sawl cyfarfod a’i rhannu â llawer o bobl. Parhewch i weddïo dros Gristnogion yn yr holl eglwysi yn ardal Caernarfon, ar iddynt gael eu cadarnhau yng ngwaith yr efengyl.


Cynadleddau Undydd y Gweinidogion

Daeth dros gant o weinidogion ynghyd yn y de a’r gogledd i brofi cymdeithas ac i wrando ar Edward Donnelly yn annerch ar ‘Ddarganfod Crist yn yr Hen Destament’. (Mae copïau o’r anerchiadau ar gael oddi wrth MEC, Bryntirion, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4DX, Ffôn: 01656 655886)


Cwrs Hyfforddi Diwinyddol MEC (Saesneg)

Ymgasglodd dros ugain o ddynion dros y Pasg i dderbyn hyfforddiant o dan arweiniad cyfarwyddwr newydd y cwrs, y Parch. Stephen Clark, a gwerthfawrogwyd y cyfnod astudio’n fawr.


Efengylu ar draws Cymru

Cawsom ein calonogi gan adroddiadau o ymgyrchoedd mewn sawl man. Bu Roger Carswell mewn ymgyrch yn Eglwys Bedyddwyr Saesneg yr Wyddgrug yn ddiweddar a thystiodd fod nifer sylweddol yno yn ymholi, a rhai wedi proffesu ffydd.


Siopau Llyfrau

Siopau Llyfrau

Er ei bod yn gyfnod anodd yn fasnachol, mae gwaith ein siopau llyfrau’n parhau a chawsom ein calonogi mewn sawl ffordd. Yn ystod 2007 dosbarthwyd tua 100,000 o lyfrau, cardiau, tractiau a darnau eraill o lenyddiaeth. Mae siop lyfrau a choffi Manna yn Wrecsam yn gwasanaethu 1,200 o bobl bob mis. Ceir sawl sgwrs fuddiol gydag unigolion anghenus, yn cynnwys rhai sy’n gaeth i gyffuriau a rhai o grefyddau eraill.


Gŵyl Gristnogol Llanw

Daeth dros gant o bobl ynghyd i Langrannog ar gyfer menter newydd yn y Gymraeg, o dan arweiniad y Parch. Meirion Morris. Bu Peter Hallam yn cynrychioli MEC fel rhan o’r pwyllgor trefnu.


Gwefan newydd

Mae cam cyntaf gwefan newydd MEC (Cymraeg a Saesneg) bellach yn weithredol. Gobeithiwn ychwanegu mwy o ddeunydd yn ystod y misoedd nesaf.


Bwrdd Rheoli newydd

Mae’r Bwrdd Rheoli newydd bron yn gyflawn. Mae’r rhai a wahoddwyd i ymuno â’r Bwrdd wedi derbyn, yn weddigar, ond yn frwd. Mae ychydig o weinidogion yn ystyried gwahoddiad i ymuno â’r Bwrdd. Diolchwn i Dduw am eu parodrwydd i ysgwyddo’r cyfrifoldeb hwn ar ben eu gwaith bugeiliol. Gobeithiwn gyhoeddi manylion llawn y Bwrdd Rheoli yn fuan.


Gwersylloedd a chynadleddau Aberystwyth

Mae’r taflenni wedi eu rhannu a’r archebion yn cynyddu’n gyson.


Ymunwch â ni i weddïo…

Er ein bod yn gallu nodi sawl calondid o ganlyniad i ymgyrch Caernarfon, cawsom ein hatgoffa yn ystod yr wythnos ein bod yn llwyr ddibynnol ar Dduw. Cafwyd sawl sgwrs gyfeillgar, ond ychydig oedd yn ceisio Duw o ddifrif. Yr un yw’r neges o bob rhan o’r wlad. Mae’n ein hatgoffa o’n hangen am i’r Ysbryd Glân weithio ym mhob dim yr ydym yn ei wneud.
Eiliwn apêl Paul: Bellach, gyfeillion, gweddïwch drosom ni, ar i air yr Arglwydd fynd rhagddo a chael ei ogoneddu, fel y cafodd yn eich plith chwi, (2 Thes 3:1)

Gweddïwch dros bawb sy’n ymwneud â’n holl weithgareddau, y bydd Gair Duw yn ‘mynd rhagddo a chael ei ogoneddu’.


Gweddiwch dros weindogion a phregethwyr Gair Duw

Mae Paul yn ein hannog yn yr adnod uchod i weddïo drosto ef ei hun – dyn yr oedd Duw wediei ddewis i rannu’r Efengyl. Daliwch ati i weddïo dros y cannoedd o weinidogion a phregethwyrsy’n pregethu gair yr Arglwydd yn fyddlon trwy Gymru.


Ymgyrch Cymru—Townhill, Abertawe, 19-24 Mai.

Ymgyrch Cymru—Townhill, Abertawe, 19-24 Mai.

Erbyn i’r llythyr gweddi yma ddod allan byddwn wedi gorffen gwaith yr ymgyrch. Bwriadwn wneud gwaith o ddrws i ddrws, gwaith ysgolion, cyfarfodydd plant, cyfarfodydd i deuluoedd a gwasanaethau yn y capel. Gweddïwch yn benodol dros y Gweinidog, Allan Rees ac aelodau’r eglwys wrth iddynt barhau a’r gwaith ar ol yr ymgyrch.


Siaradwyr cynadleddau Aberystwyth,

Gweddïwch y byddant yn profi arweiniad yr Arglwydd wrth baratoi eu hanerchiadau:


• Y Gynhadledd Gymraeg—Geraint Morse (y prif anerchiadau), Meirion Morris, Derrick Adams, Steffan Jones, Dafydd Job and John Treharne (anerchiadau’r nos) a Dewi George sy’n arwain y cyrddau gweddi.


• Cynhadledd Saesneg—Ar t Azurdia III (y prif anerchiadau), Geoff Thomas, Paul Levy, Robert Thomas, John Treharne, Stuar t Olyott, Rico Tice, Wyn Hughes (cyfarfodydd y Sul a’r nosweithiau) a Faith Cook (seminar). Arweinir y cyrddau gweddi gan Chris Rees, Jeremy Bailey a Gary Benfold.


Eisteddfod yr Urdd, Conwy

Bydd tîm efengylu yn cael ei arwain gan Roger Thomas ar y maes drwy’r wythnos (26-31 Mai).


Cynhadledd y Gweinidogion (Saesneg)

Daeth tua saith deg o weinidogion ynghyd i Fryn-y -groes, y Bala ar gyfer y gynhadledd flynyddol hon yn 2007. Eleni bydd Michael Haykin (Canada) yn annerch ar ‘Waith yr Ysbryd Glân’. Gweddïwch hefyd dros John Aaron, Martin Downes ac Ian Campbell wrth iddynt annerch, a thros y trafodaethau fin nos o dan arweiniad Stephen Clark.


Adnewyddu Siop Llyfrau

Mae rhaglen adnewyddu siopau llyfrau MEC yn parhau. Gweddïwch dros Brian Halliwell a Steve Potts wrth iddynt ailosod Siop Lyfrau Castell Nedd.


‘Gwas da i Grist’

Cynhadledd yn Aberystwyth i ddynion gyda’r pwyslais ar arweinyddiaeth ar Fehefin 28. Gwynn Williams, Stuart Olyott a Meirion Morris yw’r prif siaradwyr. Bwriad y gynhadledd yw cefnogi ac arwain dynion ifanc sy’n ysgwyddo cyfrifoldeb i arwain yn eu heglwysi lleol.


Cylchgronau

• Mae angen golygydd ar gyfer The Evangelical Magazine. Diolchwn i John Legg ac Andy Christofides am lenwi’r bwlch ar hyn o bryd.
• Gweddïwch dros Y Cylchgrawn gyda Robert Rhys, Edmund Owen, Rhiain Davies a Gethin Rhys yn cynnal y gwaith.
• Mae Steff Job yn cydlynu tîm sy’n cynhyrchu Llwybrau, cylchgrawn newydd i bobl ifanc. Bydd yn cael ei lansio ym mhabell Gwasg Bryntirion yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol.


Personél

Personél

• Stuart a Doll Olyott wrth iddynt symud i lannau Dyfrdwy.
• Ann Davies—(Siop Lyfrau’r Bala)—rhai gofalon iechyd, a datblygiadau i’r dyfodol yn y Siop Lyfrau.
• Bryn-y-groes—angen staff ychwanegol, yn enwedig ym mis Mai a Mehefin.
• Manna, Wrecsam, lle mae angen cymorth arlwyo ychwanegol i gynorthwyo Angela Gee a’i chydweithwraig wirfoddol, Margaret Thomas.

 

Parhewch i weddïo dros holl waith y Mudiad wrth i ni fentro ar gyfnod hynod o brysur os gwelwch yn dda. Gweddïwch y bydd Duw yn ein harwain wrth i ni weithio er mwyn cyhoeddi’r newyddion gogoneddus am ein Harglwydd a’n Gwaredwr Iesu Grist ledled Cymru.
 




Danfonwyd yr e-bost yma i [email address suppressed]
Cliciwch yma i orffen eich tanysgrifiad yn syth.


Mudiad Efengylaidd Cymru
Bryntirion, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4DX
01656 655886
Elusen Gofrestredig 222407