Ydych chi’n cael anhawster i ddarllen y cylchlythyr yma? Cliciwch yma i’w weld yn eich porwr.
Rydych yn derbyn y cylchlythyr yma o ganlyniad i danysgrifiad o’n safle wê. Cliciwch yma i orffen eich tanysgrifiad.
Ymunwch â ni... mewn gweddi
 

Gyda thristwch ac ymdeimlad o golled y cyhoedda Mudiad Efengylaidd Cymru farwolaeth y Parch J. Elwyn Davies. Ef oedd un o brif sylfaenwyr y Mudiad, gan arwain y gwaith am dros ddeng mlynedd ar hugain fel Ysgrifennydd Cyffredinol.

Yn dilyn yr Ail Ryfel Byd cafodd nifer o Gymry dröedigaethau crefyddol – rhai ohonynt yn fyfyrwyr colegau Cymru. Daeth y cwmni hwn – rhai o’r Gogledd a rhai o’r De i gysylltiad â’i gilydd. Trefnwyd cyfarfodydd, ymgyrchoedd ac encilion arbennig. Gyda rhai fel y Parch. J Elwyn Davies yn arwain roedd yr holl weithgarwch yn tystio i’r ffydd Efengylaidd, yn seiliedig ar brofiad personol a chred ddiysgog ym marwolaeth iawnol Crist. Heb yn wybod iddo ef a’i gyfeillion roedd seiliau Mudiad Efengylaidd Cymru yn cael eu gosod, gan uno Cristnogion efengylaidd hen a newydd ar draws ffiniau enwadol.

Dros y misoedd nesaf gwireddwyd y weledigaeth o sefydlu’r Cylchgrawn Efengylaidd – daeth Elwyn a’r rhai a fyddai yn aelodau cyntaf y Mudiad i’w hadnabod fel ‘Pobl y Cylchgrawn’. Roedd yna gyffro newydd yn y tir a’r ffydd efengylaidd draddodiadol eto yn nwylo Cymry ifainc Cymraeg eu hiaith. Apwyntiwyd Elwyn yn Ysgrifennydd Cyffredinol y Mudiad Efengylaidd.

O 1956 ymlaen cafwyd staff i gynorthwyo’r gwaith gweinyddol a rhoddodd hyn gyfle i Elwyn gyflawni’r gwaith arbennig a roddodd Duw iddo. Ehangodd y gwaith gyda chyhoeddi The Evangelical Magazine of Wales. Daeth niferoedd mwy i wneud y Mudiad yn un dwyieithog, gyda sefydlu Cymdeithas i gysylltu eglwysi efengylaidd yng Nghymru. Cafodd Elwyn ddylanwad ar ddwsinau o weinidogion ac arweinwyr crefyddol yng Nghymru a thu hwnt. Mewn pregeth, encil a sgwrs bersonol roedd yn gyfaill, athro, cynghorydd a mentor i lu o bobl. Rhoddwyd baich arbennig iddo dros uno pobl Dduw a oedd yn rhannu’r ffydd feiblaidd a fu’n ganolog i fywyd Cymru ar hyd y blynyddoedd.

Gweithiodd yn ddiflino a chyson ar hyd ei oes hir, gan nodi bod i Gymru – a garai yn angerddol – nodweddion ac anghenion ysbrydol ei hun. Wrth bregethu, wrth ddadansoddi neges y Beibl, wrth ysgrifennu pamffled neu lyfryn roedd y cariad hwnnw at Gymru i’w weld yn wastadol. Gweithiai yn ddiflino drosti ac er ei mwyn – a’i gariad mawr oedd Iesu Grist gan geisio undod yn y Crist hwnnw rhwng brodyr a chwiorydd.

Anodd credu iddo gyflawni cymaint. Bu’n weinidog gyda’r Annibynwyr ym Mlaenau Ffestiniog (1950 – 55), ac yn weinidog rhan amser yn Seion, Cwmafan. Gweithiodd i’r IVF (UCCF bellach) rhwng 1955 a 1962 a bu’n Llywydd y Cyngor Efengylaidd Prydeinig (1969 – 72), yn weinidog rhan amser ar Eglwys Efengylaidd Saesneg ym Mhen-y-bont – tra’n trefnu gwaith y Mudiad dros gyfnod hir (1955 – 1990), a chael amser i weinidogaethu am gyfnodau yn Awstralia a Phatagonia.

Cafodd gymar heb ei ail pan ddaeth Mair Humphreys yn wraig iddo yn 1951. Cafodd y ddau fwy o amser gyda’i gilydd pan ymddeolodd Elwyn o waith y Mudiad yn 1990. Dwy ddalen o’r un llyfr oedd y ddau. Yn ystod ei waeledd olaf pwysai Elwyn yn drwm arni am gynhaliaeth ac ar y teulu estynedig. Estynnir ein cydymdeimlad dwysaf iddi hi a’u chwe phlentyn a’u teuluoedd. Diolch am obaith yr Efengyl sy’n dweud bod i bobl Dduw gartref nefol ‘nid o waith llaw’, a diolch i Dduw am Elwyn sydd bellach yno.




Danfonwyd yr e-bost yma i [email address suppressed]
Cliciwch yma i orffen eich tanysgrifiad yn syth.


Mudiad Efengylaidd Cymru
Bryntirion, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4DX
01656 655886
Elusen Gofrestredig 222407