 |
If you would like to receive future copies of this email in English, please click here.
Mis yma:
Beth am argraffu copi?
Gallwch lawrlwytho copi PDF o’r llythyr gweddi yma yn Gymraeg neu Saesneg. Beth am argraffu copi ar gyfer eich cyrddau gweddi, neu i gadw yn eich Beibl?
|
 |
 |
“Gallwn ni ddim, rhaid i ni beidio â chyfyngu Duw a’i Rym!”.
Ers i mi fynychu cyfarfod “arferol” un o’r siopau llyfrau, ym Mhorthaethwy, mae’r geiriau hyn wedi atsain yn fy nghalon. Roedd Geraint Morgan wedi darllen Salm 78. Cawsom i gyd ein herio – yn arbennig fi – rhaid i ni beidio byth a gwneud yr hyn wnaethon nhw...
Dro ar ôl tro rhoesant brawf ar Dduw, a blino Sanct Israel. Nid oeddent yn cofio ei rym y dydd y gwaredodd hwy rhag y gelyn. (ad 41 a 42).
Daeth eu diffyg ffydd sinigaidd i’r amlwg wrth iddynt gwestiynu Duw...
Bu iddynt lefaru yn erbyn Duw a dweud, “A all Duw arlwyo bwrdd yn yr anialwch? (ad 19).
Wrth alw arnoch i weddïo dros Gymru rydym am eich annog i gredu nad yw Ef wedi ei gyfyngu, mae Ei rym mor fawr ag erioed... ac mae’n gallu arlwyo gwledd yn yr anialwch - hyd yn oed yng Nghymru - yn arbennig yng Nghymru!
Ar y groes, pan oedd yn ymddangos fel pe tai popeth ar ben, roedd ein Harglwydd Iesu Grist wedi ennill maddeuant a nefoedd i bawb sy’n credu ynddo. O ganlyniad i hyn mae ei rym atgyfodedig ar waith yn Ei bobl heddiw. Ac mae tystiolaeth sy’n profi hyn i’w gael – mae ein Duw yn gweithio i ewyllysio ac i weithredu ei ewyllys rhyfeddol.
Wrth i chi ddefnyddio’r Galwad i Weddïo hwn gallwch dreulio noson yn gweddïo fel mae rhai eglwysi’n ei wneud. Mae eraill yn neilltuo wythnos gyfan i weddïo . Mewn mannau eraill, lle nad oes eglwysi lleol, bydd pobl Dduw yn gweddïo mewn parau neu’n unigol. Waith beth am y patrwm a ddewiswch - gweddïwch dros Gymru.
Os gwelwch yn dda gadewch i ni eich atgoffa...
Yr angen
Y rhai sydd ddim yn mynd i eglwys.... nid yw 98% o boblogaeth Cymru yn mynychu eglwys yn rheolaidd. Mae dros 95% o’r boblogaeth heb fod mewn gwasanaeth eglwys ar Ddydd Sul erioed. Mae’r mwyafrif llethol o bobl Cymru heb erioed glywed yr efengyl mewn man o addoliad.
Y rhai sy’n mynd i eglwys....Mae gan un grŵp eglwysig yng Nghymru 800 o eglwysi a dim ond 36 o weinidogion - rhai ohonynt yn efengylaidd. Yng Ngogledd Cymru mae canran uchel o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg, ond mae angen mwy o eglwysi a gweinidogion sy’n dysgu’r efengyl a’r Beibl yn yr ardal. Yr un yw’r patrwm yng nghymoedd De Cymru, Y Canolbarth, Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd lle siaredir Saesneg yn bennaf.
Partneriaeth yn yr Efengyl yw ein cenhadaeth fel Mudiad Efengylaidd Cymru. O ganlyniad i hyn, er nad ydym yn ffocysu ar waith MEC yn unig yn ein ceisiadau gweddi, rydym hefyd yn gofyn i chi weddïo dros weinidogaethau ac eglwysi eraill. Mae angen i ni weddïo dros holl waith yr efengyl yng Nghymru.
…yn y lle cyntaf, gweddïwch dros Gristnogion …
Y bydd Duw yn uno Cristnogion yng Nghymru i ...
- Brofi’n gyson realiti presenoldeb Crist;
- Fyw gyda hyder yn Ei Air ac yn gwbl ufudd iddo;
- Fod ar dân dros waith yr efengyl yn ein gwlad;
- Bwyso’n llwyr arno Ef trwy weddi ddisgwylgar.
…yn ail, gweddïwch dros eglwysi a Christnogion iddynt gyhoeddi'r efengyl ymhlith yr rhai sydd heb glywed yr efengyl a phlannu eglwysi lle nad oes eglwysi ar hyn o bryd
Sut le fyddai Cymru pe bai Duw’n cyffwrdd Cymru a
- bod eglwys lle mae’r efengyl yn cael ei gyhoeddi yn ei hiaith gyntaf ym mhob cymuned lle mae dros 1000 o bobl yn byw;
- bod pob eglwys Feibl-ganolog yng Nghymru yn weithgar yn lledaenu’r efengyl yng Nghymru;
- bod pawb sy’n byw yng Nghymru yn cael cyfle i glywed yr efengyl yn bersonol, yn ei mamiaith;
- bod pob Cristion yng Nghymru yn cael baich i weddïo ac i weithio dros efengylu drwy Gymru.
Gweddiwch yn benodol dros..
Ymdrech heriol eglwysi sy’n rhan o Ymgyrch Cymru yn 2008:
- Eglwysi Caernarfon - John Treharne a gweinidogion eraill yn yr ardal (sylwch ar y llun o’r cyfarfod awyr agored yn ystod yr ymgyrch);
- Eglwys Bedyddwyr Townhill –Y Gweinidog - Allan Rees.
Ymgyrch Cymru 2009
- Eglwys Efengylaidd Llanbedr Pont Steffan (Dydd Iau, Ionawr 29ain i Ddydd Llun Chwefror 1af);
- Eglwysi eraill sy’n ystyried cynnal ymgyrchoedd - y bydd ewyllys yr Arglwydd yn dod yn eglur iddynt.
- Ymgyrchoedd eraill megis eglwysi sy’n caru’r Efengyl ym Mhen-y-bont yn dod at ei gilydd ac yn cynnal ymgyrch yng Ngwanwyn 2009 gyda Roger Carswell.
Ymgyrch Cymru 2010
- Abertawe a Phontarddulais o Dachwedd 31ain – Tachwedd 1af gyda Roger Carswell;
Dynion sydd â chalon i gyrraedd Cymru - er enghraifft:
- Roger Thomas a threlar MEC: mae Roger yn teithio o gwmpas gwyliau diwylliannol a sioeau amaethyddol Cymru;
- Chris Rees (Bedyddwyr Narberth) sydd bellach yn arwain gwaith sy’n datblygu yn eglwys Bedyddwyr Llansteffan lle mae cymaint ag ugain yn mynychu nawr. Mae Chris am fynd â’r efengyl allan i bentrefi Hendy-gwyn, Tavernspite a San Clêr yn Ne Orllewin Cymru;
- Ian Middlemist – efengylydd sy’n cael ei gyflogi gan Eglwys Bedyddwyr Hill Park yn Hwlffordd
- Gwaith Awyr Agored newydd ar y Sul dan ofal Eglwys Bedyddwyr Ebeneser Abertawe;
- Huw Kinsey wrth iddo ymddeol o’r swyddfa ym Mryntirion, Steff Job, Gethin Rhys, Steve Potts a Mark Barnes wrth iddynt weithio i MEC; Stuart Olyott wrth iddo barhau fel cyfarwyddwr Bugeiliol MEC;
- Gweinidogion newydd fel John Williams ym Methel, Gorseinon, Paul Kosciecha, Lonlas;
- Gwynn Williams wrth iddo fod yn gadeirydd MEC a Peter Milsom cadeirydd AECW.
Gwaith plannu eglwysi megis:
- Caerdydd gydag eglwysi AECW ;
- Gwaith yn yr iaith Gymraeg yn yr Eglwys Newydd. Caerdydd;
- Dinas a Sir Abertawe, Llandeilo a Dolgellau;
- MEC a Chymry Gyfan wrth i ni geisio cefnogi plannu eglwysi.
…yn drydydd, gweddïwch y bydd eglwysi a Christnogion yn cynyddu mewn llythrennedd Beiblaidd a'r gallu i feithrin disgyblion
Sut le fyddai Cymru pe bai Duw’n cyffwrdd Cymru a bod:
- pob Cristion yng Nghymru yn cael ystod eang o adnoddau buddiol a dysgeidiaeth yn ei famiaith;
- pob Cristion yng Nghymru – o bob oed – yn gwybod ac yn caru’r Beibl, yn brofiadol o’i rym, yn ei drin yn gywir, ac yn cynorthwyo’i hunan ac eraill i fyw’n ufudd iddo;
- pob Cristion yng Nghymru’n byw o fewn cyrraedd rhesymol i stondin lyfrau Cristnogol sy’n darparu llenyddiaeth ddibynadwy a pherthnasol ynghyd ag adnoddau eraill.
Gweddiwch yn benodol dros:
- Gwasg Bryntirion : Y byddwn yn cynhyrchu mwy a mwy o adnoddau cyfredol a Beiblaidd yn y Gymraeg a’r Saesneg.
- Siopau Llyfrau Cristnogol: Yn enwedig siopau MEC - a gweddïwch yn arbennig dros y siopau yng Nghaerdydd, Rhydaman, Castell Nedd a Wrecsam wrth i ni osod sylfaen ariannol cynaliadwy gyda chefnogaeth Howard Bilton. Gweddïwch hefyd dros y datblygiadau newydd cynhyrfus yn y Bala gyda chefnogaeth Robert Adlam;
- Yr eglwysi yn Llandrindod ac yng Nghanolbarth Cymru yn dilyn cau siop MEC yno. Yr ydym yn bwriadu cynnal ffeiriau llyfrau yn y Canolbarth yn rheolaidd er mwyn cefnogi’r eglwysi.
- GIG: Dros Arfon Jones wrth iddo barhau i weithio ar beibl.net. Gweddiwch hefyd dros y wefan wrth i fwy o adnoddau darllen y Beibl gael eu darparu.
- Gweinidogaethau Grwpiau ieuenctid mewn eglwysi, Ysgolion Sul a grwpiau ieuenctid megis ‘Youth Link’ a ‘Generation Next’.
... Yn bedwerydd, gweddïwch dros eglwysi a Christnogion y byddant yn rhwydweithio a cydweithio yn well
Sut le fyddai Cymru pe bai Duw’n cyffwrdd Cymru a bod:
- pob eglwys Feibl-ganolog yng Nghymru yn ymwybodol o anghenion gwaith yr efengyl yn ein gwlad ac yn gweddïo drostynt.
- pob eglwys yn cydweithio’n gyson gydag eglwysi Beibl-ganolog eraill.
- pob gweinidog yr efengyl yng Nghymru’n ymroi i hybu brawdoliaethau rhaid-mynd
- pob Cristion yng Nghymru yn cael cymdeithas ystyrlon a chyson â Christnogion o eglwysi eraill.
Gweddïwch yn benodol dros....
- Y cynadleddau: Er mwyn iddynt fod yn anogaeth i bob Cristion ac yn gymorth i gefnogi eglwysi.
- Canolfan Cynadledda Bryn-y-Groes: Y bydd Dave a Pat yn cael eu defnyddio fwy fwy gan Dduw fel adnodd i gynorthwyo Cristnogion ac eglwysi ar draws Cymru.
- Boreau Gweddi dros ddiwygiad i weinidogion MEC (Ionawr 12, Mawrth 30ain a Hydref 12fed) a’r Cynadleddau Undydd (Chwefror 2ail a 3ydd).
- Affinity wrth iddynt barhau a’u gwaith dan arweiniad Jonathan Stephen a phrofi llawer o galondid ac wynebu sawl sialens arwyddocaol, yn arbennig rhai ariannol.
- Y Gynghrair Efengylaidd wrth iddynt gydweithio’n agos gydag eraill i ddylanwadu ar y Cynulliad Cenedlaethol a sicrhau llais Cristnogol cryfach yn y llywodraeth genedlaethol.
… yn olaf gweddïwch y bydd eglwysi a Christnogion yn derbyn arweiniad a hyfforddiant gwell.
Sut le fyddai Cymru pe bai Duw’n cyffwrdd Cymru a bod:
- pob eglwys yng Nghymru yn annog dynion a merched ifanc i ymarfer eu doniau ac i ddeall galwad Duw;
- pob gweinidog yng Nghymru’n cael cyfle i dderbyn hyfforddi cyson trwy gydol ei weinidogaeth;
- pob eglwys yng Nghymru’n derbyn arweiniad ysbrydol a deinamig;
- pob eglwys yng Nghymru’n defnyddio gwragedd hŷn i hyfforddi ac i arwain merched iau;
- pob Cristion ifanc yng Nghymru yn cael cyfle i fod mewn grŵp ieuenctid rhyng-eglwysig fydd yn eu hannog ac yn eu dysgu’n rheolaidd.
Gweddiwch yn benodol dros:
- Hyfforddiant : Cyrsiau hyfforddi diwinyddol MEC (Cymraeg a Saesneg) a Choleg Diwinyddol Efengylaidd Cymru
- DAWN (Hyfforddiant cyfrwng Cymraeg) yn cael ei arwain gan Meirion Morris yn Llansannan,
- Gweinidogion lleol ar eglwysi sy’n ffyddlon i’r efengyl yn eich ardal
- Brawdoliaethau wrth iddynt barhau i annog ac i gynorthwyo gweinidogion yn eu gwaith.
Boed i’r Arglwydd eich bendithio yn ystod y flwyddyn nesaf hon.
Yng Nghrist yn unig
|
 |