 |
If you would like to receive future copies of this email in English, please click here.
Mis yma:
Beth am argraffu copi?
Gallwch lawrlwytho copi PDF o’r llythyr gweddi yma yn Gymraeg neu Saesneg. Beth am argraffu copi ar gyfer eich cyrddau gweddi, neu i gadw yn eich Beibl?
|
 |
 |
Bob blwyddyn bydd Mudiad Efengylaidd Cymru yn cyhoeddi galwad i
weddïo dros Gymru. Hwyrach bod ffurf yr alwad yn newid, ond yr un yw’r gri yng nghalonnau pobl Dduw. Bydd rhai eglwysi’n treulio noson yn gweddïo, ac eraill yn neilltuo wythnos gyfan. Lle nad oes eglwysi lleol bydd y saint yn gweddïo mewn parau neu’n unigol. Gweddïwch dros Gymru, os gwelwch yn dda. Mae’r angen yn fawr.
Yr angen
Mae’r ffigyrau diweddaraf yn ddigon i’n sobri. Rhwng 1 a 2% o boblogaeth Cymru sy’n mynychu lle addoliad yn gyson, tra bydd 5 i 6% yn gwneud hynny o dro i dro. Gallwn fod yn weddol sicr wrth awgrymu na fydd 95% o bobl Cymru byth yn clywed yr efengyl mewn capel nac eglwys.
Dengys y ffeithiau hyn yn eglur bod angen i ni weddïo dros ein cenedl. A yw popeth ar ben?
Ddim o gwbl! Mae gennym obaith mawr-
Mae’r Arglwydd yn galw arnom i weddïo, ac mae Ef yn parhau i weithio heddiw yng nghalonnau llawer o bobl yng Nghymru. Yr ydym am eich annog i weddio…
Diolch i Dduw am ei ffyddlondeb
DescriptionYn ystod y flwyddyn ddiwethaf cafwyd ateb i nifer o weddïau:
Diolch i Dduw am fendithio gwersylloedd 2007. Daeth nifer o bobl ifanc i ymddiried yn yr Arglwydd Iesu fel gwaredwr personol, a chafodd eraill sicrwydd eu bod yn gadwedig.
Diolch i Dduw am weld nifer yn mynychu cyfarfodydd efengylu ledled Cymru, yn cynnwys cyrsiau efengylu.
Diolch i Dduw am y dynion a’r merched ifanc sydd wedi dechrau mewn gwaith Cristnogol.
Mudiad Efengylaidd Cymru
Yn ystod 2007 bu’r Mudiad yn ceisio arweiniad Duw i’r dyfodol, a lluniwyd rhestr o
flaenoriaethau ar gyfer y blynyddoedd i ddod – sydd yn adlewyrchu blaenoriaethau nifer o
eglwysi a mudiadau Cristnogol trwy Gymru.
Ein dymuniad yw Cydweithio yn yr Efengyl gydag eraill. Tra bod y llythyr hwn yn canolbwyntio ar waith MEC, cofiwn weddïo dros holl waith yr efengyl yn ein gwlad, yn cynnwys eglwysi a
gweinidogaethau eraill.
...Yn gyntaf, gweddïwch dros Gristnogion...
Y bydd Duw yn uno Cristnogion yng Nghymru i ...
- brofi’n gyson realiti presenoldeb Crist;
- fyw gyda hyder yn Ei Air ac i fod yn gwbl ufudd iddo;
- fod ar dân dros waith yr efengyl yn ein gwlad;
- bwyso’n llwyr arno Ef gan weddïo’n ddisgwylgar.
... Yn ail, gweddïwch dros gynnydd ysbrydol eglwysi a Christnogion
Gweddïwch ...
- y bydd holl Gristnogion Cymru yn derbyn dysgeidiaeth ac ystod eang o adnoddau buddiol yn eu mamiaith;
- y bydd Cristnogion Cymru – o bob oed – yn gwybod ac yn caru’r Beibl, yn profi ei rym, yn ei astudio’n gywir, ac yn cynorthwyo’u hunain ac eraill i fyw’n ufudd iddo
Gweddïwch yn benodol dros...
- GiG ac Arfon Jones wrth iddo barhau gyda gwaith Beibl.net.
- Gwasg Bryntirion – y bydd yn cyhoeddi mwy a mwy o lyfrau ac adnoddau Beiblaidd.
- Siopau Llyfrau Cristnogol – y byddant yn parhau i wasanaethu eglwysi a Christnogion, ac yn cyhoeddi’r efengyl.
- Gweinidogaeth grwpiau ieuenctid mewn eglwysi, Ysgolion Sul a grwpiau ieuenctid rhanbarthol.
... Yn drydydd, gweddïwch dros undod a chydweithio ymhlith eglwysi a Christnogion
Gweddïwch:
- y bydd pob eglwys Feibl-ganolog yng Nghymru yn ymwybodol o’r gweinidogaethau
- Cristnogol yn ein gwlad ac yn gweddïo drostynt;
- y bydd pob eglwys yn cydweithio’n gyson gydag eglwysi Beibl-ganolog eraill;
- y bydd Cristnogion Cymru yn cael cymdeithas ystyrlon a chyson gyda Christnogion o Eglwysi eraill.
Gweddïwch yn benodol....
- y bydd cynadleddau yn anogaeth i Gristnogion ac yn cefnogi eglwysi;
- y bydd canolfan Bryn-y-groes yn parhau dan fendith Duw fel adnodd i Gristnogion ac eglwysi Cymru;
- dros Y Cynghrair Efengylaidd sy’n cydweithio ag eraill i geisio sicrhau llais Cristnogol yn y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru.
Yn bedwerydd, gweddïwch y bydd eglwysi a Christnogion yn derbyn mwy o arweiniad a hyfforddiant
Gweddiwch .....
- y bydd pob eglwys yng Nghymru yn annog dynion a merched ifanc i ymarfer eu doniau ac i ddeall galwad Duw;
- y bydd pob gweinidog yng Nghymru yn cael cyfle i dderbyn hyfforddiant cyson trwy gydol ei weinidogaeth;
- y bydd pob eglwys yng Nghymru yn derbyn arweiniad ysbrydol a deinamig;
- y bydd gwragedd hŷn yr eglwysi’n hyfforddi merched iau;
- y bydd Cristnogion ifanc Cymru yn cael cyfle i fod yn rhan o grwpiau ieuenctid fydd yn annog ac yn hyfforddi.
Gweddïwch yn benodol dros:
- Goleg Bryntirion, colegau Beiblaidd ac eraill sy’n cynnig hyfforddiant;
- Gyrsiau Hyfforddi Diwinyddol MEC;
- Meirion Morris, Llansannan, wrth iddo barhau i hyfforddi a meithrin pobl ifanc;
- Weinidogion eglwysi yn eich ardal;
- Stuart Olyott (Cyfarwyddwr Bugeilio MEC), a’r cyfarfodydd gweinidogion sy’n annog a chynorthwyo gweinidogion yn eu gwaith.
...Yn olaf, gweddïwch y bydd eglwysi a Christnogion yn cyhoeddi’r efengyl ymhlith y rhai sydd heb ei chlywed (95% o’r boblogaeth) ac y bydd
Gweddïwch:
- y bydd pob eglwys Feibl-ganolog yng Nghymru yn cyhoeddi’r efengyl yn ffyddlon;
- y bydd pawb sy’n byw yng Nghymru yn cael cyfle i glywed yr efengyl yn yn eu mamiaith;
- y bydd pob Cristion yng Nghymru yn cael baich i weddïo a gweithio dros lwyddiant yr efengyl yng Nghymru.
Gweddïwch yn benodol dros:
- Roger Thomas a cherbyd efengylu MEC. Mae Roger yn ymweld â sioeau, eisteddfodau a ffeiriau Cymru gan gyhoeddi’r efengyl.
- Darganfod Cristnogaeth. Gweddïwch dros y cyrsiau niferus a gynhelir yn ystod 2008, a’r llawlyfr astudio Cymraeg a gyhoeddir yn fuan.
- Ymgyrchoedd y traethau – trwy’r United Beach Mission ac Undeb y Gair.
- Cymru Gyfan a David Ollerton, a’r gwaith o gefnogi ac ysgogi achosion eglwysig newydd.
- J P Earnest (The Open-air Mission) sy’n pregethu yn yr awyr agored o amgylch gogledd Cymru.
Ymgyrch Caernarfon
Gweddïwch yn benodol dros yr ymgyrch a gynhelir yng Nghaernarfon fis Mawrth. Steffan Job sy’n arwain y tîm, gyda Martin Williams yn gaplan. Bydd y tïm yn gweithio gydag Eglwys Bedyddwyr Caersalem a’i gweinidog, John Treharne. Y bwriad yn ystod yr wythnos yw gweithio yn yr ysgolion, o ddrws i ddrws, ac ar y maes yng nghanol Caernarfon.
Yn ogystal â hyn trefnir nifer o gyfarfodydd ar gyfer ieuenctid, dysgwyr, yr henoed, ac yn yr awyr agored. Daw’r wythnos i ben gyda phryd bwyd a sgwrs ar nos Wener a phrif gyfarfod yn y capel fore’r Pasg.
Gweddïwch yn benodol y bydd Duw yn agor calonnau pobl i dderbyn yr Arglwydd Iesu Grist yn waredwr ac y bydd Duw yn cael ei ogoneddu drwy’r cyfan fydd yn digwydd.
|
 |