Ydych chi’n cael anhawster i ddarllen y cylchlythyr yma? Cliciwch yma i’w weld yn eich porwr.
Rydych yn derbyn y cylchlythyr yma o ganlyniad i danysgrifiad o’n safle wê. Cliciwch yma i orffen eich tanysgrifiad.
Ymunwch â ni... mewn gweddi

If you would like to receive future copies of this email in English, please click here.

Mis yma:

Annwyl gyfeillion
Gweddi a Gwaith Gydol yr Haf...
Gwersylloedd
Yr Eisteddfod Genedlaethol
Cynadleddau MEC
Swyddog Datblygu Gwaith Cymraeg
Cenhadaeth Cymru
Ymgyrchoedd y Traeth
Cyrsiau Diwinyddol MEC
‘Cronfa Anti Bessie’
Rali Flynyddol MEC
Llyfrau Newydd o Wasg Bryntirion
Newidiadau Staff
Christianity Explored


Beth am argraffu copi?

Gallwch lawrlwytho copi PDF o’r llythyr gweddi yma yn Gymraeg neu Saesneg. Beth am argraffu copi ar gyfer eich cyrddau gweddi, neu i gadw yn eich Beibl?

Diolch am weddïo dros MEC. Wrth deithio Cymru rydw i wedi cwrdd â sawl un sy’n defnyddio’r wybodaeth yn y llythyrau hyn yn eu gweddïau drosom. Bu eu gwerthfawrogiad yn hwb mawr i ni.
Mae eich gweddiau wedi eu hateb.

  • Cynadleddau Gweinidogion: Gwerthfawrogwyd Cynhadledd Saesneg y Gweinidogion yn y Bala ym mis Mehefin yn fawr iawn. Cafodd Stuart Olyott, Jay Smith (sy’n gweithio gyda Moslemiaid radical), Gwynn Williams, a Dafydd Job nerth arbennig wrth bregethu. Bu’n anogaeth gref i lawer un.
  • Eisteddfodau: Daeth tîm da ynghyd i gynorthwyo Roger Thomas gyda’r Cerbyd Efengylu yn Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerfyrddin. Dosbarthwyd llawer o lenyddiaeth a chafwyd nifer o sgyrsiau ysbrydol buddiol hefyd.
  • Siopau Llyfrau: Ailwampiwyd siop Pen-y-bont i gynnwys cornel plant a lolfa goffi. Diolchwn i Eluned Thomas am agor y siop yn swyddogol. Mae yno ddarpariaeth gwell ar gyfer pobl ac eglwysi lleol. Croesawyd llawer un sydd heb gredu eto. Dros dri mis cyntaf y flwyddyn gwelwyd cynnydd o 8% mewn gwerthiant yn ein siopau llyfrau. Yn ôl arweinydd CLC UK roedd hyn yn anhygoel, ond mae hi’n gynnar eto! Ym mis Awst adnewyddir siop lyfrau Bangor, ac yna siop lyfrau Castell Nedd. Gweddïwch dros Brian Halliwell wrth iddo wneud y gwaith. Ddiwedd Gorffennaf bydd Dorothy Wonnacott yn ymddeol fel rheolwr siop Castell Nedd. Diolchwn i Dduw amdani a’i hymroddiad ffyddlon a graslon a gweddïwn ar i Dduw ei bendithio wrth iddi ymddeol. Cofiwn hefyd am Gaynor Lewis sy’n cychwyn fel rheolwr yno ar Awst 1af.
  • Swyddi Allweddol: Bu penodi Swyddog Cyllid parhaol yn destun gweddi ers cryn amser. Mae Hugh Jenkins, sydd wedi llenwi’r swydd dros dro, yn gadael ym mis Medi. Er gwaethaf ei brofiad helaeth, bu’r swydd yn her aruthrol iddo o ran swmp ac ystod. Diolchwn amdano yntau, ac am allu penodi Tricia Layton am y flwyddyn nesaf o leiaf. O Fedi ymlaen bydd hi’n gweithio dau ddiwrnod yr wythnos. Hysbysebwyd swydd Swyddog Datblygu Gwaith Cymraeg: mae’n bwysig penodi’r person iawn i’r swydd hon.
  • Pobl gymwys i waith cymwys: Wrth imi ymuno â MEC dywedwyd wrthyf nad oedd strwythur y pwyllgorau yn hyrwyddo gweithredu’n effeithiol a bod angen newidiadau. Erbyn hyn rydym wedi creu strwythur newydd, ond mae hefyd angen yr arweinwyr iawn. Gweddïwch felly am benodiadau addas i’r Bwrdd Rheoli, a hefyd i’r Cyngor Partneriaeth yn nes ymlaen. Rydym yn falch iawn o allu dweud mai Gwynn Williams fydd y cadeirydd.
  • Gwersylloedd: Parhawn i glywed am bobl ifainc yn profi tröedigaeth mewn gwersylloedd. Daeth un dyn ifanc yn Gristion mewn gwersyll Cymraeg ddwy flynedd yn ôl. Pan aeth i Goleg Llanbedr dechreuodd dystiolaethu wrth ferch ifanc am gariad Duw. Daeth hithau’n Gristion; mae hi’n frwd iawn yn mynychu pob cwrdd yn yr eglwys leol. Gwahoddodd gyfaill iddi o’r enw Simon i’w gwasanaeth bedydd. Clywodd ef yr Efengyl yno, a chredu; caiff yntau ei fedyddio’r haf yma. A’r cyfan yn dechrau gydag un dyn ifanc yn mynd i wersyll . . . pwy arall ddaw i gredu, tybed?
  • Cynadleddau Aber: Yn ddiweddar bûm yn cyfweld â Derek Swann ar gyfer fideo. Bu’n hel atgofion am gynhadledd Saesneg gyntaf MEC yn Aberafan hanner canrif yn ôl, a Martyn Lloyd-Jones yn brif siaradwr. Roedd yn cofio am un cyfarfod arbennig pan oedd presenoldeb Duw mor fyw a’r neges mor werthfawr fel nad oedd neb am symud. Boed i Gynadleddau 2007 fod yr un mor werthfawr.

Gweddi a Gwaith Gydol yr Haf...

Os ‘Gweddi yw’r Gwaith’, fel y tystia llawer, yna mae angen dirfawr i ni alw ar yr Arglwydd. Fe fydd nifer o resymau am ymbil ar Dduw dros ei weision yn ystod misoedd yr haf. Pregethir cannoedd o bregethau, cynhelir miloedd o sgyrsiau am Iesu Grist, a dosberthir miloedd o dractau a phamffledi. Mae angen cymorth ar bobl Dduw. Nodir isod rai gweithgareddau sy’n gysylltiedig â’r Mudiad a fydd angen ein gweddïau.


Gwersylloedd

Gwersylloedd

Eleni mae tua 500 o wersyllwyr a 200 o swyddogion wedi eu cofrestru ar gyfer ein gwersylloedd. Mae her a pherygl yn y gwaith hwn. Gwirfoddolwyr yw’r holl gogyddion a’u cynorthwywyr, y swyddogion, yr arweinwyr, a’r caplaniaid. Byddant yn gweithio oriau maith cyn ac yn ystod y gwersylloedd. Rhaid iddynt fod yn effro i bob cyfle a her. Ein nod yw darparu hwyl a bwyd – yn gorfforol ac yn ysbrydol. Eisoes cyfarfu timau’r gwersylloedd i gwblhau cynnwys a threfniadau eu gwersylloedd penodol. Fe fydd caplaniad yn paratoi astudiaethau beiblaidd a’u prif negeseuon. Yn y swyddfa fe fydd prysurdeb gweinyddol, a chyn bo hir anfonir yr ohebiaeth derfynol at y gwersyllwyr.
Gwelir rhestr gyflawn o’r gwersylloedd ar gefn y ddalen weddi hon.
Gweddïwch am:

  • Llenwi tua 100 o leoedd gwag dros y 12 gwersyll.
  • Arweinwyr timau wrth orffen eu paratoadau.
  • Staff y swyddfa yn eu prysurdeb wrth brosesu’r holl wybodaeth.
  • Calonnau gwersyllwr yn cael eu paratoi.
  • Caplaniaid gwersyll wrth baratoi astudiaethau beiblaidd a phregethau.
  • Diogelwch pawb yn y gweithgareddau i gyd.


Yr Eisteddfod Genedlaethol

Eleni eto fe fydd tîm MEC yn Eisteddfod yr Wyddgrug, Sir Fflint, yn gweithio gyda phlant ac yn gwerthu llenyddiaeth Gristnogol. Yn ôl yr arfer croesewir pobl i gymdeithasu a sgwrsio dros baned. Gwirfoddolwyr o eglwysi lleol sy’n darparu lluniaeth, a Christnogion o bob rhan o Gymru yn aelodau o’r tîm efengylu a fydd yn dosbarthu tractau newydd a chyfoes, ac yn rhoi cyfle i’r eisteddfodwyr glywed a thrafod yr Efengyl.


Cynadleddau MEC

Cynadleddau MEC

Awst 11-18 ac Awst 20-24 yw dyddiadau’r cynadleddau haf yn Aberystwyth. Mae dros 1,300 o bobl wedi cofrestru eisoes. Edward Donnelly (Saesneg) a Sulwyn Jones (Cymraeg) yw’r prif siaradwyr. Bydd Phil Swann yn pregethu yn lle Derek Swann (sy’n anhwylus) ar nos Wener y Gynhadledd Saesneg, a gweddïwn drostynt ill dau. Dewi Tudur Lewis, Jonathan Thomas, Graham Daniels, Wyn Hughes ac Evan George yw pregethwyr yr hwyr yn y Gymraeg. Fe fydd hefyd seminarau heriol ac amrywiol ar gyfer bob oedran. Cynhelir cyrddau plant a chyfarfodydd ar rodfa’r môr yn ystod y ddwy gynhadledd. Gweddïwch ar i Dduw fendithio’i bobl yn helaeth.


Swyddog Datblygu Gwaith Cymraeg

Gweddïwn yn daer am arweiniad Duw wrth benodi Swyddog. Mae’r angen yn fawr yn y maes hwn. Gobeithir gwneud penodiad yn ystod y Gynhadledd Gymraeg.


Cenhadaeth Cymru

Ddiwedd Gorffennaf cynhelir ymgyrch ar y cyd rhwng UCCF ac Eglwys Efengylaidd Rhydaman. Mae MEC wrthi’n trefnu tair ymgyrch debyg mewn eglwysi yn ystod y naw mis nesaf. Fe fydd un yn Gymraeg, un yn Saesneg, ac un yn ddwyieithog, ar y cyd ag UCCF. Gweddïwch drosom wrth chwilio am eglwysi brwd, arweinwyr, pregethwyr, a thimau i bob ymgyrch.


Ymgyrchoedd y Traeth

Dros yr haf cynhelir ymgyrchoedd ar draethau Cymru, gan gynnwys Cei Newydd, Benllech, Llandudno (gyda chyrddau awyr agored bob nos), a Bae Langland, Gŵyr. Ym mis Awst mae tystiolaeth gan y Genhadaeth Awyr Agored yn Ninbych-y-Pysgod. Bob prynhawn am 2.30 bydd ganddynt ‘Holiday Special’. Cynhelir ymgyrchoedd eraill yn Saundersfoot, Aberystwyth, Cricieth, ac efallai Sir Benfro. Mae’ch gweddïau’n bwysig – ac mae croeso ichi fod yn bresennol hefyd os oes modd.


Cyrsiau Diwinyddol MEC

Cynhelir cwrs preswyl Saesneg ddiwedd Awst. Gweddïwch am fyfyrwyr newydd. Wedi blynyddoedd o ymroddiad di-flino mae Graham Harrison yn ymddeol fel y Cyfarwyddwr y cwrs Saesneg; Stephen Clark fydd ei olynydd. Tystiodd sawl un iddynt elwa o’r Cwrs Diwinyddol Cymraeg, sy’n dathlu chwarter canrif eleni. Mae cynlluniau ar y gweill i newid ffurf y cwrs Cymraeg o 2008 ymlaen.


‘Cronfa Anti Bessie’

Mae’r gronfa hon, sy’n derbyn cyfraniadau i gynorthwyo gwersyllwyr o deuluoedd anghenus, yn dal ar agor. Fe fydd mwy na 25 o blant yn elwa eleni. Hyd yn hyn casglwyd dros £1,000 o’r £1,500 angenrheidiol, a diolchwn i Dduw am hyn. Os am gyfrannu, cysylltwch â swyddfa MEC os gwelwch yn dda.


Rali Flynyddol MEC

Cynhelir y Rali Flynyddol Saesneg, yn ôl yr arfer, ar Sadwrn cyntaf mis Hydref (y 6ed) yn Eglwys Libanus, Treforys, o 1:30 yp i 8:00 yh. Roger Carswell, Stuart Olyott, ac Andrew Davies fydd yn siarad. Hefyd arweinir seminarau gan weinidogion sydd yn plannu ac ehangu eglwysi.


Llyfrau Newydd o Wasg Bryntirion

Fis Awst cyhoeddir llyfr Ted Donnelly, Life in Christ, sy’n edrych ar un o hoff ddisgrifiadau’r Testament Newydd o’r Cristion, sef un sydd ‘yng Nghrist’. Gobeithir cyhoeddi llyfr Gwynn Williams ar ystyr y groes a’i lle canolog yn y ffydd Gristnogol – rhywbeth sy’n cael cryn sylw y dyddiau hyn – cyn diwedd y flwyddyn. Gweddïwn y bydd y ddau lyfr o ddefnydd helaeth.


Newidiadau Staff

Gweddïwch am y staff yn Bryntirion sy’n wynebu cyfnod o bwysau ychwanegol. Mae dau aelod o staff wedi gorfod tocio’u horiau, sef Mark Barnes, sydd bellach yn weinidog ar Eglwys Efengylaidd Bethel, Clydach, a Joan Pells Cocks sydd newydd ddathlu ei phenblwydd yn drigain oed. Diolchwn i Dduw am barodrwydd aelodau eraill i dderbyn mwy o gyfrifoldeb yn sgil hyn, am wirfoddolwyr sy’n cynorthwyo yn y swyddfa, ac am eraill sy’n fodlon gweithio’n rhan-amser dros yr haf.


Christianity Explored

Mae MEC yn hybu cyfieithiad Cymraeg o’r cwrs yma. Gweddïwn dros y gwaith hwn, a’r defnydd ohono yn y pen draw gan fyfyrwyr ac eglwysi Cymraeg.

Gweddïwch, os gwelwch yn dda – ‘Gweddi yw’r Gwaith’.




Danfonwyd yr e-bost yma i [email address suppressed]
Cliciwch yma i orffen eich tanysgrifiad yn syth.


Mudiad Efengylaidd Cymru
Bryntirion, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4DX
01656 655886
Elusen Gofrestredig 222407